Beth yw fflecsi Bwcabus?
Mae fflecsi Bwcabus yn wasanaeth bysiau lleol gwbl hygyrch sy’n gweithredu mewn ardal benodol ac yn darparu cyfuniad o wasanaethau llwybrau sefydlog a theithiau wedi’u harchebu ymlaen llaw. Nod fflecsi Bwcabus yw helpu pobl i wneud teithiau lleol a chysylltu â gwasanaethau bws prif linell. Mae bws yn eich casglu ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall yr holl deithwyr gyrraedd lle mae angen iddynt fynd.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig, ac rydym wedi cynllunio fflecsi Bwcabus i gludo teithwyr yn ddiogel. Mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni’n eu casglu yn golygu y gallwn warantu sedd i chi a chadw pellter cymdeithasol.
fflecsi Bwcabus – eich gwasanaeth bws hyblyg – yn ymateb i’ch anghenion teithio