Beth yw fflecsi Bwcabus?
Gwasanaeth bws lleol hyblyg y mae modd ei archebu yw fflecsi Bwcabus, wedi’i lunio i ddiwallu anghenion trigolion cefn gwlad. Mae model trafnidiaeth wledig Bwcabus yn gweithredu mewn ardal benodol ac yn darparu gwasanaethau llwybrau sefydlog a theithiau wedi’u harchebu ymlaen llaw sy’n ymateb i’r galw, gan eich galluogi chi i deithio lle y mynnoch, pryd y mynnoch o gymharu â gwasanaeth bws confensiynol.
Gwasanaeth archebu fflecsi Bwcabus
Os nad oes gwasanaeth bws yn eich ardal neu os nad yw’r amserau’n addas, manteisiwch ar wasanaeth Bwcabus. Am wybodaeth ynghylch pryd y mae Bwcabus ar gael, ffoniwch ein canolfan alwadau ar 0300 234 0300. Gellir archebu hyd at fis ymlaen llaw.
Cofrestrwch am ddim drwy ein ap neu ganolfan alwadau.
Gwasanaethau llwybr sefydlog fflecsi Bwcabus
Mae gan Bwcabus nifer o lwybrau sefydlog sydd ar waith ar ddiwrnodau penodol, does dim angen archebu neu gofrestru ar gyfer y llwybrau hyn. Dewch i ddal bws yn yr un modd â gwasanaeth bws arferol.
Llwybrau Sefydlog Sir Gaerfyrddin/Ceredigion
Llwybrau Sefydlog Sir Benfro
Ble y gallaf fynd?
Mae Bwcabus yn galluogi teithwyr i deithio rhwng trefi a phentrefi lleol neu gysylltu â gwasanaethau bws lleol a TrawsCymru.
Bwcabus – Cysylltu â Traws Cymru a gwasanaethau cyswllt Traws Cymru
Gellir defnyddio ein gwasanaethau i deithio i’r gwaith, i’r ysgol, i apwyntiadau iechyd, i gyfleusterau hamdden ac i siopa. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.