Hygyrchedd Bysiau
Mynediad Llawr isel
Mae gan bob bws Bwcabus lawr isel, mynedfeydd llydan di-ris y gellir cael mynediad hwylus iddynt, na ddylai achosi unrhyw drafferth i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio, troliau siopa, bagiau neu rheiny ag anawsterau i symud.
Mynediad i gadeiriau olwyn
Mae gan ein holl gerbydau fannau priodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Rhoir blaenoriaeth i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Os yw cadeiriau gwthio neu fygis mewn man sydd wedi ei neilltuo i gadeiriau olwyn, bydd y gyrrwr yn gofyn ichi blygu eich bygi. Rhaid cadw’r tramwyfeydd a’r fynedfa yn glir bob amser. Er bod y cerbydau’n cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae cyfyngiad ar rai cadeiriau olwyn ac yn ogystal, un gadair olwyn yn unig y gellir ei chludo ar y bws. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r ganolfan alwadau.
Bygis a Chadeiriau gwthio
Mae modd dod â bygis a chadeiriau gwthio ar y bws. Noder, does dim llawer o le i fygis ar y bws. Os oes cadair olwyn neu fygi mewn man sydd wedi ei neilltuo i gadeiriau olwyn, efallai bydd y gyrrwr yn gofyn ichi ei phlygu. Am resymau diogelwch, a fyddech cystal â sicrhau nad ydych yn rhwystro’r fynedfa a’r tramwyfeydd.
Cŵn Cymorth ac anifeiliaid anwes
Rydym am ichi deithio mor hwylus â phosibl, felly rydym yn sicrhau bod yr holl anifeiliaid cymorth yn teithio am ddim ar bob cerbyd. Gan gynnwys:
- Cŵn tywys ar gyfer y deillion
- Cŵn clyw ar gyfer pobl fyddar
- Cŵn cymorth i’r anabl
- Cŵn cymorth i gynnal annibyniaeth
Os ydych chi’n rhannol ddall neu os oes angen cymorth arnoch i nodi’ch cyrchfan, dywedwch wrth y gyrrwr ar bob cyfrif.
Yn ogystal, caniateir cŵn ac anifeiliaid anwes ar y bws ar yr amod eu bod:
- Yn cael eu cadw mewn cawell anifeiliaid bob amser
- O dan reolaeth.
Mae hyn er diogelwch a hylendid teithwyr.
A fyddech cystal â rhoi gwybod i’r ganolfan alwadau pan fyddwch yn archebu.
Beiciau Plygu
Mae modd dod â beiciau plygu ar y bws. A fyddech cystal â sicrhau eu bod wedi eu plygu ac nad ydynt yn amharu ar y tramwyfeydd neu fynediad i unrhyw sedd.
Noder: Y mae’n bosibl na ellir caniatáu beiciau plygu ar y bws ar adegau:
- Os nad oes digon o le ar y bws
- Os yw eich beic yn achosi llanast o fewn y bws ac ar y seddu, neu’n achosi i deithwyr fod yn anghysurus
Ni ellir dod â beiciau cyffredin na ellir eu plygu ar y bws oherwydd prinder lle a diogelwch.