Beth am gofrestru â Bwcabus?
Mae’n gyflym, yn hawdd ac am ddim
Os nad yw’r gwasanaethau sefydlog yn gwasanaethu eich ardal neu os nad ydynt yn darparu gwasanaeth ar y diwrnodau a’r amserau y mae ei angen arnoch – archebwch fws ar adeg sy’n addas i chi.
I ddefnyddio gwasanaeth archebu ymlaen llaw Bwcabus, mae’n rhaid i chi gofrestru.
Yn syml, llenwch y ffurflen isod neu ffoniwch ein canolfan alwadau ddwyieithog sydd â staff cyfeillgar
Ar ôl i chi wneud hynny, gallwch fynd ati i archebu.
Rhowch gynnig arni
Nid oes angen i chi gofrestru i ddefnyddio gwasanaethau sefydlog Bwcabus – ewch i’r arhosfan bysiau ar y diwrnod a’r amser a nodir ar yr amserlen.