Skip to main content

Ymwadiad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (y Cyngor) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gywir, yn ddibynadwy, ac wedi’i diweddaru. Nid yw’r Cyngor, ei gyflenwyr, na phartïon eraill sy’n gysylltiedig â chreu a gweithredu’r wefan hon, yn atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir gan ddibyniaeth a ddeillia o ddefnyddio’r wefan hon.

Dolenni cyswllt

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni cyswllt â gwefannau eraill y mae’n bosibl nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y Cyngor. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw’n atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra a allai ddigwydd yn sgil defnyddio’r gwefannau.

Cwcis

Rydym am ddarparu gwasanaethau ar-lein sy’n hawdd eu defnyddio, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Gall hyn olygu rhoi pytiau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur neu eich ffôn symudol neu ddyfeisiau eraill sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd tra byddwch yn defnyddio ein gwefan. Cwcis y gelwir y ffeiliau hyn.

Rydym yn defnyddio cwcis i’ch helpu i ddefnyddio’r wefan hon yn effeithlon ac i gyflawni swyddogaethau penodol. Ni ddefnyddir y cwcis hyn i wybod pwy ydych chi.

Google Analytics

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth ynghylch sut y mae’r rhai sy’n ymweld â’n safle yn ei ddefnyddio. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ddienw am:

  • nifer yr ymwelwyr â’r safle
  • ble y daeth y rhai sy’n ymweld â’r safle a’r tudalennau y maent wedi ymweld â hwy
  • beth y mae defnyddwyr yn ei glicio wrth ymweld â’r wefan
  • pa ddyfeisiau a phorwyr y maent yn eu defnyddio i gael mynediad i’r wefan
  • gwybodaeth ddemograffig

Darllenwch ragor am y cwcis a osodir gan Google Analytics

Cwcis addasu

Rydym yn defnyddio dau gwci addasu i gofio eich dewisiadau. Defnyddir un i dynnu’r faner “Rydym yn defnyddio cwcis…” ar ôl clicio’r botwm “Rwy’n deall”. Mae’r ail gwci ar gyfer defnyddwyr porwyr sydd wedi dyddio i sicrhau bod neges rybuddio ynghylch eu porwr yn ymddangos dim ond ar y dudalen gyntaf y maent yn ymweld â hi.

Rheoli eich Cwcis

I gael gwybod sut mae caniatáu, atal, dileu a rheoli cwcis, dilynwch y ddolen gyswllt isod a dewiswch y porwr yr ydych yn ei ddefnyddio. Hefyd gallwch ddarllen tudalennau cymorth annatod neu ar-lein eich porwr i gael rhagor o wybodaeth.

Darllenwch ragor am sut mae rheoli cwcis