Gwybodaeth am Deithio
Nod ein tudalen Gwybodaeth am deithio yw darparu gwybodaeth ynghylch Trafnidiaeth Gyhoeddus leol ichi i’ch cynorthwyo i wneud trefniadau teithio i unrhyw le ac unrhyw bryd.
Dewch i weld pa mor rhwydd yw teithio ar y bws – ewch amdani
Rhwydwaith TrawsCymru
Mae gwasanaethau bws pellter hir TrawsCymru yn rhan bwysig o rwydwaith trafnidiaeth integredig Cymru. Mae'r gwasanaethau hyn wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer o gymunedau ledled Cymru yn dibynnu arnynt ac maent yn rhoi cyfle i ymwelwyr deithio drwy harddwch Cymru yn hawdd, yn fforddiadwy ac yn ecogyfeillgar.